Negyddol Arfaethedig Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

21 Ionawr 2019

pNeg(5)08 – Rheoliadau Llifogydd a Dŵr (Diwygio) (Cymru a Lloegr) (Ymadael â'r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud drwy arfer y pwerau ym mharagraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a hefyd i ymdrin ag unrhyw ddiffygion eraill yng nghyfraith yr UE a ddargedwir a fydd yn codi pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth ym maes diogelu'r amgylchedd, dŵr a llifogydd.

Cafodd y rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd

pN(5)010 – Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r offeryn hwn yn diwygio Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004 drwy ddileu cyfeiriad at Swyddfa Gyhoeddiadau yr UE a'i ddisodli â chyfeiriad at system e-hysbysu y DU.  Caiff y cyfeiriad hwnnw ei ddiffinio gan fewnosodiad yn rheoliad 51 o Reoliadau Contractau

Cyhoeddus 2015 gan reoliad 5 o Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2019.  Mae drafft o'r Rheoliadau hynny wedi'u gosod gerbron Senedd y DU.

Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion y sifft wedi’u bodloni: Ni nodwyd